HEN DAI YN NYFFRYN CONWY

1. Tŷ Marsiandiwr - Tŷ Aberconwy [1420]

Yn Nyftiyn Conwy a'r ardal gyfagos mae modd gweld enghreifftiau anhygoel o sawl tŷ Tuduraidd ac Elisabethaidd oedd yn eiddo i ffermwyr a boneddigion oedd yn byw yn yr ardal lewyrchus yma ar y pryd. Ar ôl newynau a rhyfeloedd y 1400au, datblygodd y fasnach wartheg gyda Lloegr a daeth y porthmyn ag arian a syniadau newydd yn ôl gyda nhw. Adeiladwyd neu moderneiddiwyd niter o dai, ac mae'n bosibl olrhain y datblygiadau hyn wrth i ffasiynau newid. Mae'r tai oedd yn perthyn i farsiandiwyr a boneddigion sydd wedi goroesi oddi mewn i hen dref gaerog Conwy yn dyddio o'r 1420au ymlaen; Tŷ Aberconwy yw'r plasty trefol cynharaf i'w ddyddio yng Nghymru.




2.  Tŷ neuadd [c1500] gyda simnai ac asgell parlwr ddiweddarach

Tai neuadd nenffyrch ffrâm good gydag achy yd ganolog ar y llawr ac yn dyddio i ddechrau/canol y 1400au yw'r tai gwledig cynharaf a oroesodd ac a ddyddiwyd. Gosododd cenedlaethau dilynol waliau cerrig yn lle'r coed a lleoedd tân gyda simneiau mawr yn y talcen neu'r waliau ochr, neon ganolog yn y tŷ. Gellid defnyddio nenfydau bellach i ffurfio Iloriau uchaf gan roi preifatrwydd ychwanegol.

Byddai teuluoedd cyfoethocach hefyd yn ymestyn eu tai naill ai drwy adeiladu esgyll ychwanegol neu ail dŷ'n gyfochrog neu ar ongl sgwâr i'r cyntaf.

Nodweddion

Tua'r 1530au daeth cynllun newydd [a elwir bellach yn dŷ Eryri] yn boblogaidd ledled Gogledd Cymru, ac mac modd gweld Ilawcr o hyd. Tŷ Iloriog oedd hwn gyda Ile tân cil pentan mawr a simnai yn y talcen gyda grisiau tro yn y talcen ncsaf at y ]le tân. I fyny'r grisiau roedd simnai corbelaidd yn y talcen arall. Trowyd nifer o dai neuadd yn adeiladau Iloriog drwy osod simnai'n ganolog neu yn y talccn. Parhawyd i godi tai yn y dull hwn hyd y 1600au. Mac rhai tai'n cynnwys trawstiau to coed cerfiedig cain, dyddiadau a phrif lythrennau enwau arysgrifenedig.


4. TO Mawr, Wybrnant. Tv Eryri I1560au]


Wrth i ffermio droi'n fwy Ilewyrchus, disodlwwyd niter o ffermdai a datblygwyd cynlluniau arbennig oedd yn benodol i wahanol stadau. Yn ystod y I600au adeiladwyd nifer o dai gwych yn nhref Conwy ac yn nyffryn Conwy. Mae nifer o'r rhain yn cynnwys gwaith plastr cywrain sy'n dathlu llinach eu perchnogion.


Cyfrifwyd dyddiadau cwynpo'r coed gwreiddiol mown niter o dai yng Nghonwy drwy ddefnyddio dendrocronoleg fel rhan o'r prosiect "Dyddio Hen Dai Cymreig" mewn partneriaeth a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mac gwirfoddolwyr Ileol yn parhau i ymchwilio i hanesion y tai hyn, yn ogystal a'u teuluoedd a'u cymunedau.

Tŷ nodweddiadolo "ddull Eryri" o ddiwedd 1500au

(P Smith, 'Houses of the Welsh Countryside, Fig 81 )*

 DIDDORDEB MEWN GWYBOD MWY?                 

Ymunwch â'r GrŴp Dyddio Hen Dai Cymreig er mwyn ymweld â hen dai, derbyn cylchlythyrau a rhaglen ddigwyddiadau


Gwahoddwch ni i siarad â'ch ysgol / cymdeithas


Cysylltwch â'r GrŴp drwy'r wefan neu d/o M. Dunn, Bryn Bedd, Nantgwynant, Gwynedd LL55 4NL

Mae prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru'n cydnabod yn ddiolchgar y cymorth grant gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolacth Gaynor Cemlyn Jones, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cynllun CDG Celfyddydau a Threliadaeth Conwry a chynllun Cronfa Allweddol CDG Partneriaeth Wledig Conwy a reolir gan CGGC.


Map o’r Safle


Elusen Gofrestredig Rhif: 1131782      Dendro 09 © Hawlfraint. Cedwir pob hawl.  Polisi Preifatrwydd| Telerau defnyddio



Sylwch Os Gwelwch Yn Dda Fod Yr Holl Dai Yn Y Prosiect Hwn Yn Breifat Ac Nad Oes Mynediad I Unrhyw Un O’r Eiddo.