Tai Llyn

Cefn o sawl cynod ac esgyll o’r ail ganrif ar bymetheg


Mae cofnodion yn nodi fod poblogaeth niferus yn Llŷn yn yr Oesoedd Canol a bod nifer o ddaliadau amae­thyddol yno. Roedd yn dir isel gyda hinsawdd forol fwyn ac yn llawer iawn mwy cynhyrchiol na'r ardaloedd mynyddig. O ganlyniad i'r manteision amaethyddol hyn defnyddiwyd coed a dyfwyd yn sydyn gyda chylchoedd tyfiant blynyddol llydan nad ydynt yn addas ar gyfer dyddiad blwyddgylch (dendrocronoleg). Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd dyddio nifer o dai Elisabethaidd fel yr un a ddangosir isod.



           




















HEN DAI ym MHENRHYN LlŶN

Trawstiau to Elisabethaidd na ellir eu dyddio


Nid oes unrhyw dai neuadd â fframwaith cocci ar ôl yn yr ardal. Mae Penarth Fawr, ger Chwilog, a adeiladwyd â cherrig, yn cynnwys nifer o nodweddion cynnar ac mae'n cynnwys Ile tan ochrol a ddisodlodd yr aelwyd yng nghanol y neuadd. Disodlwyd yr arddull hwn yng nghanol y 1500au gan gynllun newydd a ddaeth yn bohlogaidd ar draws Gogledd Cymru. Tŷ aml-lawr oedd hwn gyda lle tan cil pentan mawr a simnai yn y talcen gyda grisiau tro yn y talcen nesaf at y Ile tân. I fyny'r grisiau roedd simnai corbelaidd yn y talcen arall.

Tŷ nodweddiadolo "ddull Eryri" o ddiwedd 1500au

(P Smith, 'Houses of the Welsh Countryside, Fig 81 )*


 O ddiwedd y 1500au roedd stadau fferrmydd yn tyfu o ran maint, ac adeiladwyd plastai trawiadol ar gyfer eu perchnogion cyfoethog. Roedd y boneddigion hyn yn ynadon heddwch yn aml ac roedd ganddynt dŷ yn y dref farchnad leol hefyd.

   

   Plasty trefol Penlan Fawr ,Pwllheli (sydd bellach yn dafarn)

                        

Prin fod unrhyw un o'r cartrefi a godwyd cyn canol y 1700au yn y pentrefi bach pysgota wedi goroesi. Mae'r rhan fwyaf o'r bythynnod cob to gwellt a waliau pridd o'r 1700au ymlaen wedi diflannu. Gallwch weld bythynnod unllawr â chroglofft y gwei­thiwr fferm a bythynnod diweddarach y chwarelwyr yng nghefn gwlad a ger gweithfeydd fu’n segur ers tro byd.

Cob building




Nodweddion

Amcangyfrifwyd dyddi­adau cwympo coed gwreiddiol yn nifer o dai Llyn drwy ddefnyddio dendrocronolcg fel rhan o brosiecct "Dyddio Hen Dai Cymreig" a dref nwyd mewn partner­iaeth â Chomisiwn Bren-hinol Henebion Cymru. Mae gwirfoddolwyr Ileol yn parhau i ymchwilio hanesion y tai hyn, yn ogystal â'u teuluoedd a'u cymunedau.

 DIDDORDEB MEWN GWYBOD MWY?                 

Ymunwch â'r GrŴp Dyddio Hen Dai Cymreig i ymweld â hen dai derbyn cylchlythyrau a rhaglen ddigwyddiadau


Gwahoddwch ni i siarad â'ch ysgol / cymdeithas


Cysylltwch â'r GrŴp drwy'r wefan neu d/o M. Dunn, Bryn Bedd, Nantgwynant, Gwynedd LL55 4NL

Mae Prosiect Dendrocronoleg Gogledd  Orllewin Cymru'n cydnabod yn ddiolchgar y cymorth grant y mae’n ei dderbyn Cynaliadwy AHE Llŷn, cynllun Partneriaeth Tirlun Llŷn a Chronfa Dreftadaeth y Loteri



* © Hawlfraint Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Map o’r Safle


Elusen Gofrestredig Rhif: 1131782      Dendro 09 © Hawlfraint. Cedwir pob hawl.  Polisi Preifatrwydd| Telerau defnyddio



Sylwch Os Gwelwch Yn Dda Fod Yr Holl Dai Yn Y Prosiect Hwn Yn Breifat Ac Nad Oes Mynediad I Unrhyw Un O’r Eiddo.