ADEILADAU TUDURAIDD yn ERYRI

Dylanwad mawr ar lawer o dirwedd enwog Eryri yw gwaith cenedlaethau o ffermwyr a aeth ati i amgau a rheoli’r tir gan glirio coed a cherrig, codi muriau a throi peth o’r tir yn dir ar a thir pori. Mae peth sylw wedi’i roi i’r ffermdai a’r bythynnod sydd wedi goroesi a chael eu moderneiddio’n ddiweddarach. Er i benseiri brodorol astudio dulliau eu codi, nid oedd dull manwl o ddyddio’r defnydd ynddynt tan yn ddiweddar. Yn aml, bellach, gall dyddio yn ôl blwyddgylchau, neu ddendrocronoleg, roi’r dyddiad y cwympwyd y coed i’w defnyddio heb eu sychu.

 FFERMDAI yn ERYRI. Tan yn gynnar yn y 15fed ganrif, mae’n fwy na thebyg bod y mwyafrif o dai yn cynnwys neuadd agored a phetryal o bren ar lwyfan o gerrig, lle tân canolog, ffenestri bach a tho gwellt. Dibynnai eu maint ar statws a chyfoeth y perchennog. Adeg y cyfnodau o newyn a rhyfela yn y 14eg a 15fed ganrif, cafodd llawer cartref ei adael neu ei ddinistrio, a phrin yw’r rhai sydd wedi goroesi hyd heddiw yng Nghymru. Ar ôl 1485 pan ddaeth Harri VII yn frenin, cynyddodd diogelwch a chyfoeth y wlad ac ailgodwyd llawer ffermdy. Newidiodd y ffasiwn yn ystod yr 16eg ganrif ac ailgodwyd tai o gerrig yn Eryri. Yn raddol, disodlwyd yr aelwyd ganolog gan le tân o gerrig yn y pen, a bu hynny’n fodd i ddatblygu siambrau ar y llawr cyntaf ac, yn aml, risiau tro o gerrig yn ymyl y lle tân. Daeth arddull “tai isganoloesol Eryri” yn ffasiynol yn ystod cyfnod Elizabeth (1558 -1603).


RHEDODD y prosiect hwn o 2004 tan 2007 dan arweiniad Cymdeithas Hanes Beddgelert mewn partneriaeth â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth perchnogion yr adeiladau unigol. Ei nod oedd cynnwys pobl leol yn y broses o ddod o hyd i adeiladau â’r hen bren gwreiddiol ynddynt, gwneud ymchwil ddogfennol i’r ffermdai hynny, a defnyddio dendrocronolegwyr arbenigol i samplu a dyddio’r pren. Delir i ledaenu ei ganlyniadau drwy weithio gydag ysgolion, cymdeithasau lleol ac ymwelwyr, ac mewn cyhoeddiadau pellach. Y gobaith yw trefnu teithiau tywys achlysurol i mi o’r tai. Cynt, cafodd adeiladau unigol ledled Cymru eu dewis i’w dyddio, ond cyn hyn ychydig lawn o adeiladau yn y gogledd-orllewin a gawsai eu dyddio. Mae’r prosiect hwn yn unigryw yng Nghymru am ei fod yn targedu nifer fawr o adeiladau mewn ardal fach er mwyn deall yr agwedd leol a phwysig hon ar dreftadaeth a diwylliant Cymru yn well.

CANLYNIADAU. Ymwelwyd â rhyw 60 adeilad a chynigiwyd ymchwilio i dros 40 ohonynt a’u blaenoriaethu i’w samplu. Bu’r cyllid yn fodd i samplu 28 adeilad; cafwyd dyddiad cwympo coed i 26 ohonynt. Y cynharaf oedd ffermdy bach unllawr a nenffyrch o 1495 ac iddo le tan diweddarach yn y talcen. Yr oedd gan adeilad unllawr â nenffyrch a ddyddiwyd i 1508 aelwyd ganolog cyn cynnwys ynddo le tân canolog a mynedfa lobi genhedlaeth yn ddiweddarach. Dyddiwyd 15 adeilad i’r 16eg ganrif; yr oedd gan 13 ohonynt le tân yn y talcen ac yr oedd chwech yn dal i gynnwys grisiau tro ym mur y talcen. Dyddiwyd sgrin eglwys i ran gynnar o’r 16eg ganrif. Dyddiwyd chwe adeilad i’r 17eg ganrif, a phedwar i’r 18fed ac mae sawl un o’r dyddiadau hynny’n cyfateb i gymodau’r adeiladu ychwanegol. Awgrymodd y rhan fwyaf o’r gwaith dendrocronolegol ddyddiadau llawer cynharach i’w hadeiladau nag a dybid cynt - rhai ohonynt hyd at ddwy ganrif yn gynharach. Gall ffrwyth y prosiect arwain at adolygu’r adeiladau Tuduraidd yng Nghymru sydd wedi’u diogelu drwy eu rhestru.

BYDD DENDROCRONOLEG yn gweithio drwy ddefnyddio'r amrywiadau yn lled y blwyddgylchau dan ddylanwad tywydd sy’n gyffredin i ardal helaeth. Yr amrywiadau hynny sy’n fodd i bennu dyddiadau calendr i bren diddyddiad drwy eu cymharu â dilyniant o ddyddiadau pendant. Os yw darn o bren yn gyfan hyd at ymyl y rhisgl, gellir pennu union ddyddiad ei gwympo. Gwnaeth Nigel Nayling o Labordy Dendrocronoleg Prifysgol Llanbedr Pont Steffan astudiaeth beilot fach, a Dr Daniel Miles o Labordy Dendrocronoleg Rhydychen a arweiniodd y prif brosiect.

CYMORTH ARIANNOL Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan Amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Gwynedd drwy Gronfa Adfywio Llywodraeth Leol y Cynulliad, Cronfa CAE Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Arian i Bawb Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm, Cymdeithas Archaeoleg Cymru a chan berchnogion yr adeiladau a samplwyd.


NID YW’R EIDDO PREIFAT YN Y PROSIECT HWN YN AGORED I’R CYHOEDD

Manylion am prosiectau pellach: brynbedd1@gmail.com

M.Dunn 2007


Mae nenfforch yn yr adeilad hwn yn cwympo yn y gaeaf 1494/95

* © Hawlfraint y Goron: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru


A typical sub-medieval Snowdonia House (P Smith, Houses of the Welsh countryside,Fig 18 *)

)

(RCAHMW,Caerns. Vol II, Fig22) *

Gwastad Annas (Circa 1508 ) by Falcon Hildred


NODWCH FOD Y TAI YN Y PROSIECT YN BREIFAT AC NAD OES UNRHYW EIDDO’N DERBYN PLANT




Elusen Gofrestredig Rhif: 1131782      Dendro 09 © Hawlfraint. Cedwir pob hawl.  Polisi Preifatrwydd| Telerau defnyddio